Tan-yr-Onnen

 

 

Hafan
Home

 

Hanes
History

 

Lleoliad
Location

 

Meirch
Stallions

 

Cesyg
Mares

 

Ebolion
Foals

 

Ar Werth
For Sale

 

Dolenni
Links

Wedi’i leoli rhwng Aberaeron a Chei Newydd, nid yw’n bell o arfordir treftadaeth Ceredigion. Mae Tan-yr-Onnen yn gyfagos i nifer o draethau yn cynnwys Cwmtydu, Cei Newydd, Aberporth, Tresaith a Phenbryn.

Mae yna dafarn o fewn milltir a nifer o fwytai da o fewn 5 milltir i’r bwthyn cyhyd a sawl mangre twristaidd, yn cynnwys Fferm Fêl Cei Newydd, Canolfan Adar ysglafaethus, y Ganolfan Cwrwglau Cenedlaethol, Fferm Caws Cenarth, Melinnau a Rheilffordd trên stêm.

  

Y Llety

Llawr Gwaelod

Mae gan y bwthyn lawr o deils llechi; rhai waliau cerrig agored a trawstiau pren agored.

Mae’r fynedfa yn arwain i’r cyntedd ac yna drwyddo i’r ystafell fyw o dan bwa o bren y Dderwen werdd, mae yna le tân deiniadol yno gyda tân trydan effaith stôf.

Mae’r ystafell yn cynnwys dwy soffa a dwy gadair cyfforddus, teledu “surround sound”, chwaraeydd DVD a a set o fyrddau bychan.

Mae yna ystod o unedau cegin gwyrdd-wŷ-hwyaden sy’n cynnwys ffwrn drydan, peiriant golchi llestri, oergell a meicrodon yn y gegin/ystafell fwyta.

 

Mae bwrdd derw gyda chwe cadair yn yr ardal fwyta. Mae gan yr ystafell aml bwrpas Belfast sinc, rhewgell,peiriant golchi dillad a digonedd o le i gotiâu a offer traeth.

 

Hefyd ceir ystafell foeler.

Mae YSTAFELL WELY 1 yn cynnwys gwely dwbwl, byrddau ochr gwely, cwpwrdd wisgo a cwpwrdd dillad.

Mae gan yr ystafell gawod ddeiniadol gawod, tŷ bach a sinc ymolchi.

 

 

Llawr cyntaf

Grisiau pren yn arwain at ystafelloedd gwely 2 a 3 ar y LLAWR CYNTAF lle mae’r nenfwd ar oledd a gwelir golygfeydd prydferth y wlad.

Mae gan YSTAFELL WELY 2 wely dwbwl a dodrefn ystafell sy’n cyd-fynd.

Mae gan YSTAFELL WELY 3 dau wely sengl (gyda gwely “roll-over” ychwanegol wrth ymyl un ohonynt) a dodrefn ystafell sy’n cyd-fynd.

Mae gan yr YSTAFELL YMOLCHI DEULU fath, sinc a tŷ bach. Mae’r dillad gwely yn cael ei ddarparu.

 

Yr ardd a Parcio

Mae’r tir yma yn cael ei gadw’n dda, mae yna goed aeddfed a ffiniau o lwyni, lawnt, patio a darn tarmac parcio mawr sy’n cynnig lle i 3 car a cwch.

Mae dodrefn i’r ardd a barbaciw yn cael ei ddarparu. Mae yna sied yn yr ardd hefyd i storio beiciau ac offer traeth.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae gwres canolog olew drwyddo’r llety, mae hyn yn cael ei gynnwys yn y pris rhwng Mai a Medi ac yn costi £30 ar bob adeg arall.

Mae cot cyffredin, cadair uchel a clwyd i’r grisiau ar gael ar gyfer eich defnydd os oes eu hangen

Mae digon o offer cegin, hylyf glanhau,sebon ychwanegol, papur tŷ bach a bowlenni i’r ci ar gael yn y bwthyn at eich defnydd.

Cost y tywelion i’w heirio yw £3 i bob ymwelydd.


Mae croeso i fyny at ddau anifail anwes tawel eu natur ond rhaid iddynt gysgu yn yr utility/ystafell amlbwrpas.

Mae hefyd yna groeso i geffylau. Mae yna gae tair erw ar gael tu ôl y bwthyn.

Cysylltwch â ni am fwy o fanylion am brisio ac argaeledd.

 

Sian a Gareth IOAN

Croesheddig Newydd, Pentre’r Bryn, Llandysul, Ceredigion, SA44 6NB

01545 560255 / 07805 740393      sian.ioan@btinternet.com