Lleoliad          SODEN          Location

 

Hafan
Home

 

Hanes
History

 

Lleoliad
Location

 

Meirch
Stallions

 

Cesyg
Mares

 

Ebolion
Foals

 

Ar Werth
For Sale

 

Dolenni
Links

 

 
Mae gre Soden yng nghanol Ceredigion – gwlad y cobiau. Lleolir fferm Croesheddig Newydd ar yr arfordir rhwng Aberaeron ac Aberteifi ar y ffordd i bentref harbwr hynod Cei Newydd o Synod Inn. Saif rhwng Banc Sion Cwilt a’r môr.

Mae’r Afon Soden, sy’n rhoi ei henw i’r gre, yn llifo drwy dir y fferm cyn arllwys i Fae Ceredigion yng Nghwm Silio – traethell ddiarffordd gerllaw cilfach ramantus Cwm Tudu. Dyma fro y smyglwr enwog Sion Cwilt.

Mae’r olygfa dros y weunydd gleision at Ben Foel Gilie a Bae Ceredigion yn gefnlen ddelfrydol ar gyfer gwertfawrogi harddwch y cobyn Cymreig.

 

 


View Larger Map

 

The Soden Stud is located in the heart of Cob Country – Ceredigion. The farm, Croesheddig Newydd, is situated 1.5 miles from the main Aberystwyth to Cardigan coast road when heading from Synod Inn to the picturesque harbour village of New Quay.

The Soden rivulet, from which the stud gets its name, meanders through the stud estate and flows into Cardigan Bay at romantic Cwm Silio – a secluded beach near the famous Cwm Tudu cove. This is smuggler country and legends of local ‘Robin Hood’ hero Sion Cwilt abound!

The scenic view towards the distinctive hilltop of Pen Foel Gilie and Cardigan Bay forms a fitting backdrop in which to appreciate the beauty of the true Welsh Cob.

Sian a Gareth IOAN

Croesheddig Newydd, Pentre’r Bryn, Llandysul, Ceredigion, SA44 6NB

01545 560255                  soden.cobs@btinternet.com